Hygyrchedd ein gwefan

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:

  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • rydym hefyd wedi gwneud test y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

 

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn ymwybodol nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid oes offer wedi'i adeiladu i newid maint ffont neu newid cyferbyniad lliw
  • ni allwch addasu uchder llinell na bylchau testun
  • nid yw'r mwyafrif o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenwyr sgrin
  • nid yw teitlau fideos sy'n cael eu harddangos gan ddefnyddio iFrame yn hygyrch i feddalwedd darllenwyr sgrin.

 

Beth i'w wneud os na allwch defnyddio rhannau o'r wefan hon

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordio sain neu braille e-bostiwch gwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru neu ffoniwch 0300 30 33 444.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn saith diwrnod gwaith.

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy e-bostio gwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru neu ffoniwch 0300 30 33 444.

 

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS)

 

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol

Gallwn ddarparu gwasanaeth testun i bobl sy'n B / byddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.

Mae dolenni sefydlu sain yn ein swyddfeydd, neu os byddwch chi'n cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Ewch in tudalen Cysylltu â ni.

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon 2.1 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir.

 

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Dogfennau PDF ar ein gwefan

Nid yw llawer o'r PDFs ar ein gwefan yn hygyrch oherwydd:

  • Nid oes ganddynt dagiau y mae darllenwyr sgrin yn gwybod sut i roi'r wybodaeth.
  • Nid oes ganddynt nodau tudalen i helpu darllenwyr sgrin i lywio trwy'r wybodaeth
  • Maent yn colli diffiniad iaith i ganiatáu i ddarllenydd sgrin ddewis yr iaith gywir wrth ddarllen yn uchel.
  • Nid oes ganddynt deitl i ganiatáu i ddarllenwyr sgrin nodi pwnc y ddogfen.

 

Gwallau technegol ar sawl tudalen o'r wefan

Mae yna nifer o wallau technegol ar ein gwefan sy'n golygu nad yw rhai rhannau o'n cynnwys yn hygyrch. Rydym wedi rhestru isod y rhannau nad ydynt yn hygyrch a'r rhesymau a ganlyn.

  • Mae cyferbyniad lliw annigonol rhwng testun a chefndir ar rai tudalennau (Lefel A)
  • Mae priodoledd WAI-ARIA diangen ar rai tudalennau (Lefel A)
  • Mae penawdau ar goll ar un dudalen o'r wefan (Lefel A)

 

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Nid oes gan rai delweddau ac eiconau ddewis amgen testun, felly ni all pobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin gyrchu'r wybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (cynnwys heblaw testun).

Rydym yn bwriadu ychwanegu dewisiadau amgen testun ar gyfer pob delwedd erbyn Medi 2020. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau yn cwrdd â safonau hygyrchedd.

 

Dogfennau PDF ar ein gwefan

Nid yw darllenwyr sgrin yn gallu cyrraedd rhai dogfennau PDF. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas) WCAG 2.1

Rydym yn bwriadu datblygu templedi HTML ar gyfer dogfennau newydd fel y gwnawn ni cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau bod ein dogfennau'n cwrdd â safonau hygyrchedd erbyn mis Medi 2020.

 

Materion technegol ar ein gwefan

Mae yna nifer o wallau technegol ar ein gwefan sy'n golygu nad yw rhai rhannau o'n cynnwys yn hygyrch. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas)

Rydym yn bwriadu trwsio'r holl faterion technegol a restrir erbyn mis Medi 2020.

 

Baich anghymesur

Mae priodoledd teitl ar goll ar rai fideos ar ein gwefan neu mae'r priodoledd 'teitl' yn wag sy'n golygu felly ni all pobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin gyrchu teitl y wybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth)

Gwnaethom asesu cost trwsio'r problemau gyda'r defnydd o iFrames ar ein gwefan. Credwn y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn gwneud asesiad arall pan fydd y contract cyflenwyr ar fin cael ei adnewyddu, yn debygol o fod yn 2021.

 

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Nid yw llawer o'n dogfennau PDF a Word hŷn yn cwrdd â safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai na fyddant wedi'u strwythuro felly maent yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Nid yw hyn yn cwrdd â maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (enw, gwerth rôl).

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddwn yn cwrdd â safonau hygyrchedd.

 

Sut wnaethon ni brofi'r wefan hon

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 27 Gorffennaf 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Gofal Cymdeithasol Cymru gan ddefnyddio teclyn profi hygyrchedd o'r enw SiteImprove.

Gwnaethom ddefnyddio'r dull hwn oherwydd ei fod yn caniatáu inni asesu'r wefan gyfan i leoli a thrwsio materion sy'n gyffredin ar draws nifer o dudalennau ar draws pob rhan o'r wefan.

Fe wnaethon ni brofi: https://www.fframwaithsefydlu.cymru/

 

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiwn  cysylltwch â ni.