Sut i ddefnyddio gwefan Egwyddorion a gwerthoedd

- cyngor i weithwyr

 O 1 Mawrth 2023

  • ni fyddwn yn derbyn cyfrifon newydd ar y gwefan fframwaith sefydlu Cymru Gyfan
  • ni fydd rheolwyr yn gallu gwahodd gweithwyr I greu cyfrif
  • ni fydd gweithwyr yn gallu creu cyfrif, a bydd rhaid iddynt fynd at wefan Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn cwblhau’r gweithlyfrau sefydlu

Bydd rheolwyr a gweithwyr sydd eisoes â chyfrif yn gallu parhau i’w defnyddio tan fod y gwefan yn cau ar 1 Hydref 2023. Ni fyddwch yn gallu gwneud newidiadau i weithlyfrau ar ôl y dyddiad hwn.

Beth yw fframwaith sefydlu Cymru-Gyfan?

Mae'r fframwaith sefydlu Cymru-Gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (AWIF) yn gwrs sy'n seiliedig ar lyfr gwaith sy'n cwmpasu'r egwyddorion, gwerthoedd a sgiliau sydd eu hangen i weithwyr gyflawni eu rol yn gymwys.

Mae saith adran i'r AWIF, mae gan fod adran log cynnydd a llyfr gwaith i gefnogi eu dysgu. 

Gellir defnyddio'r wefan hon i gwblhau copiau digidol o'r llyfrau gwaith. Mae rhagor o wybodaeth am yr AWIF gan gynnwys y logiau cynnydd ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Mae angen i mi gofrestru a gallaf ddefnyddio'r AWIF neu'r dyfarniad egwyddorion a gwerthoedd fel tystiolaeth?

Na, newidiodd hyn ar 1 Hydref 2022. Nid yw Gofal Cymdeithasol Cymru bellach yn derbyn y tystysgrifau i gofrestru.

Gallwch ddefnyddio unrhyw waith yr ydych wedi'i gwblhau tuag at dystiolaeth i' gwened cais try defnyddio asesiad cyflogwr. 

Gall cyflogwr nawr gadarnhau cais eu gweithwyr i gofrestru ar ol asesu eu dealltwriaeth yn erbyn rhestr o feysydd. Cwblheir hyn fel rhan o'r cais y byddech yn gwneud i gofrestru, nid oes angen unrhyw gamau ar y we fan hon, i gael gwybod mwy am hyn ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Dechrau arni

Ar ôl mewngofnodi, byddwch yn gweld teitl cliciwch parhau i fynd at y gweithlyfrau. 

Cliciwch gewler i weld adrannau o’r gweithlyfr. Os ydych chi’n cwblhau’r gweithlyfr ar-lein, bydd angen i chi weithio trwy bob adran a darparu’r wybodaeth ofynnol, gan sicrhau eich bod chi’n clicio ar y botwm ‘Arbed Cynnydd’, cyn parhau i’r adran nesaf. Ar ôl i chi gwblhau pob adran o’ch gweithlyfr, bydd angen i chi glicio ar cyflwyno i’w anfon at eich rheolwr i’w werthuso.

Rydym yn cydnabod y gall rhai gweithwyr fod wedi cwblhau gweithlyfr ar bapur yn barod. Os byddwch chi a’ch rheolwr yn cytuno eich bod eisoes wedi cwblhau’r gweithlyfr all-lein, i fynd i’r asesiad, bydd angen i chi ychwanegu rhywfaint o destun, er enghraifft ‘cwblhawyd all-lein’, at bob blwch, gan sicrhau eich bod yn clicio ar ‘Arbed Cynnydd’ yna parhau – rhaid ichi wneud hyn ar gyfer pob blwch ym mhob adran o’ch gweithlyfr. Gallai fod yn haws copïo a gludo’r testun hwn i bob adran.

Enghraifft

Ar ôl i’ch adrannau gael eu harbed, byddant yn newid o anghyflawn i gyflawn ar y ddewislen.

Pan fydd holl adrannau gweithlyfr wedi’u cwblhau, rhaid i chi glicio ar cyflwyno ym mhrif ddewislen y gweithlyfr er mwyn i’r gwaith gael ei anfon at eich rheolwr i’w adolygu. Bydd hyn yn cloi eich gweithlyfr ac yn rhoi cyfle i’ch rheolwr gymeradwyo neu wrthod y gweithlyfr yn ei gyfrif.

Ar ôl i chi basio adran, bydd hon yn troi’n adran ‘darllen yn unig’, gan olygu eich bod yn gallu gweld eich gwaith a sylwadau eich rheolwr, ond ni allwch wneud unrhyw newidiadau i’r adran honno mwyach. Gallwch adolygu ac ychwanegu at unrhyw adran a wrthodir, cyn ei hailgyflwyno i’ch rheolwr ei gwerthuso eto.

Dim ond ar ôl i’ch rheolwr gymeradwyo holl adrannau’r gweithlyfr wedi ei gwblhau.

Cwestiynau Cyffredin - i weithwyr

Pam mae saith gweithlyfr a pha rai y mae angen i mi eu cwblhau?

Gellir defnyddio llyfrau gwaith y fframwaith sefydlu Cymru-Gyfan i gefnogi cwblhau cyfnod sefydlu staff sydd eu hangen. Mae'r llyfrau gwaith y dylech gwblhau yn dibynnu ar eich rol, i gael gwybodaeth lawn am y fframwaith, gan gynnwys y logiau cynnydd gofynnol ewch i’w gweld ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gyda phwy y dylwn i siarad os oes gennyf gwestiynau am lenwi fy atebion yn y ngweithlyfr?

Y rheolwr sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif sy’n gwerthuso’ch gweithlyfr. Dyma fyddai’r person gorau i siarad ag ef am y gwaith.

Beth mae angen i mi ei wneud i newid y rheolwr a osodwyd i werthuso fy ngweithlyfrau?

Os bydd arnoch angen i ni newid y rheolwr sy’n gwerthuso’ch gweithlyfrau, anfonwch e-bost at sefydlu@gofalcymdeithasol.cymru yn darparu:  eich enw, eich cyfeiriad e-bost, enw’ch rheolwr newydd a’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiodd i sefydlu ei gyfrif rheolwr ar y wefan. Ar ôl i ni gael y wybodaeth hon, byddwn yn gallu newid y rheolwr ar eich rhan.

Beth ddylen i ei wneud os bydda’ i’n cael problem dechnegol gyda’r wefan?

Os oes angen cymorth arnoch gyda phroblem sydd gennych gyda’ch cyfrif, anfonwch e-bost at sefydlu@gofalcymdeithasol.cymru yn darparu: eich enw, eich cyfeiriad e-bost, manylion eich rheolwr, gwybodaeth am y gwall neu’r broblem, a chadarnhad ynghylch p’un a fyddech chi’n hapus i ni newid y cyfrinair a mewngofnodi i’ch cyfrif i archwilio ymhellach.

Rwy’ wedi anghofio fy nghyfrinair ac rwy’n methu mewngofnodi

Os ydych chi wedi anghofio’ch cyfrinair, gallwch anfon dolen e-bost atoch chi’ch hun i osod cyfrinair newydd, trwy https://www.fframwaithsefydlu.cymru/forgotten-password/

Nid oes gennyf fotwm cyflwyno ar fy nghyfrif

Rhaid i chi lenwi holl adrannau’ch gweithlyfr cyn i’r botwm cyflwyno ymddangos. Sicrhewch eich bod wedi clicio’r botwm ‘Arbed Cynnydd’ ar waelod pob adran. Pan fydd pob adran wedi’i chwblhau a’i harbed, bydd y botwm cyflwyno yn ymddangos ar brif ddewislen y gweithlyfr, wrth ymyl enw’r gweithlyfr. Byddwch yn gwybod p’un a ydych chi wedi cyflwyno’ch gweithlyfr i’ch rheolwr, oherwydd bydd yn cloi ac yn datgan fod y gweithlyfr yn cael ei werthuso.

Lawrlwytho copiau o lyfrau gwaith wedi'u cwblhau.

Unwaith y bydd llyfr gwaith wedi'i gwblhau'n llawn ac wedi'i ddychwelyd atoch gan eich rheolwr, bydd botwm o'r enw lawrlwytho copi yn ymddangos yn eich cyfrif ar y ddewislen wrth ymyl enw'r llyfr gwaith.

Ychwanegwyd y nodwedd hon at bob cyfrif yn dilyn adborth yr hoffai gweithwyr gadw copi o'u gwaith i'w ddefnyddio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Bydd clicio'r botwm lawrlwytho yn creu ac yn lawrlwytho fersiwn PDF o'ch llyfr gwaith cyflawn gan gynnwys sylwadau eich rheolwr. Gall hyn gymryd ychydig eiliadau i'w gynhyrchu ond ar ôl ei greu, bydd gennych PDF y gallwch ei arbed i'ch dyfais.

O ble galla’ i lawrlwytho tystysgrif?

O 1 Hydref 2022 nid yw'r we fan bellach yn cyhoeddi tystysgrifau ar gyfer cwblhau'r llyfru gwaith.

Mae angen i mi gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, beth ydw i'n ei wneud?

Bydd yn rhaid i chi ymweld a gwefan wahanol o'r enw GCCarlein i wneud cais i fod ar Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol Cymru. Ar GCCarlein bydd angen i chi greu cyfrif eich hun a llenwi'r math o gais sydd ei angen arnoch. Ar gyfer cymorth cofresrtu ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru